Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd
Mercher, 3 Mai 2023
Amser:
Times
Not Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13322
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Catherine McKeag (Swyddog) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Jones, nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o eitem gyntaf y cyfarfod ar 10 Mai
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4 Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical - trafod yr adroddiad drafft
4.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. Caiff ei drafod ymhellach yn y
cyfarfod yr wythnos nesaf.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 - trafod ymateb Llywodraeth Cymru
5.1 Trafododd yr
Aelodau yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a'r papur i’w nodi 10,
sef llythyr gan y Pwyllgor Cyllid. Cytunodd yr Aelodau i
ysgrifennu'n ôl at y Pwyllgor Cyllid gyda'u barn ar
dystiolaeth ysgrifenedig gweinidogol.
6 Mynediad at addysg i blant a phobl ifanc anabl - trafod strategaeth ymgysylltu
6.1 Cytunodd yr Aelodau ar y dull o ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru. Fe wnaethon nhw hefyd drafod rôl ac allbwn dewisol y grŵp cynghori ar-lein a chytuno arnynt.
7 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Prif Weithredwr y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - trafod y dull gweithredu
7.1 Cytunodd yr Aelodau ar y dull gweithredu. Fe gytunon nhw hefyd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynglŷn â'r broses cyn penodi.